Pan fydd plentyn yn mynd i ofal maeth, efallai y bydd yn teimlo'n ofnus ac yn bryderus. Dydyn nhw ddim gwybod i ble maen nhw'n mynd, na gyda phwy maen nhw'n mynd i fod yn byw.
Er na ellir cael gwared o鈥檙 pryderon a鈥檙 ofnau hynny鈥檔 llwyr, dros y pum mlynedd diwethaf mae Maethu Cymru wedi cyflwyno nifer o fesurau i sicrhau bod plant yn teimlo鈥檔 ddiogel, yn dawel eu meddwl, a鈥檜 bod yn cael eu croesawu gan eu gofalwyr maeth.
Lansiwyd porth ar-lein The Big Welcome yn 2025 er mwyn i deuluoedd maeth gyflwyno eu hunain yn rhithiol i blentyn newydd cyn iddyn nhw ymuno 芒鈥檜 cartref.
Trwy broffil gwe rhyngweithiol, gallant rannu gwybodaeth 鈥 a lluniau 鈥 o aelodau鈥檙 teulu, anifeiliaid anwes, y cartref ei hun, a hyd yn oed yr ardal leol gyda phlant fydd dan eu gofal.
Gyda chymorth porth The Big Welcome, gall plant a phobl ifanc edrych drwy broffil gofalwr maeth cyn iddyn nhw gwrdd. Mae'r teclyn syml ond pwerus yma鈥檔 troi ansicrwydd yn gyffro.
Nawr, mae gan 762 o ofalwyr maeth yng Nghymru borth ar-lein The Big Welcome.
Sefydlwyd Maethu Cymru yn 2021 fel cydweithrediad dielw rhwng gwasanaethau maethu awdurdodau lleol ledled Cymru. Ar 15ed Gorffennaf, mae'r rhwydwaith o awdurdodau lleol yn dathlu ei ben-blwydd yn bump oed.
Sefydlwyd Maethu Cymru i wella鈥檙 broses o recriwtio a chadw gofalwyr maeth yng Nghymru, yn ogystal 芒 sicrhau bod cymaint o blant 芒 phosibl yn gallu aros yn eu cymunedau lleol pan mae鈥檔 iawn ar eu cyfer nhw.
Yn y pum mlynedd diwethaf, mae 84% o blant sy鈥檔 cael eu maethu drwy wasanaethau awdurdodau lleol yng Nghymru wedi aros yn lleol, o gymharu 芒 dim ond 32% mewn asiantaethau maethu annibynnol.
Ers ei sefydlu, mae 704 o ofalwyr maeth newydd wedi cael eu recriwtio gan Maethu Cymru ac yn cael eu cefnogi gan ddigwyddiadau cymunedol personol rheolaidd, sesiynau hyfforddi a chymorth gan gyfoedion.
Diolch i gefnogaeth, hyfforddiant a phrofiad, mae bron pob un o ofalwyr maeth Maethu Cymru (93%) a holwyd yn dweud eu bod yn teimlo鈥檔 hyderus wrth ddelio ag ymddygiadau plant sy鈥檔 gysylltiedig 芒 thrawma, ac o鈥檙 rhain mae 56% yn teimlo鈥檔 hynod hyderus.*
Dywedodd Michelle Griffiths, Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Plant ym Mhyllau Gwent :
鈥淩ydyn ni mor falch o鈥檙 gwaith y mae Maethu Cymru 糖心Vlog wedi鈥檌 gyflawni ar gyfer plant yn y bum mlynedd ddiwethaf, ac wedi gweld yn uniongyrchol y budd o borth ar-lein The Big Welcome i blant sy鈥檔 ymuno 芒 theulu maeth newydd. Gall rhywbeth mor fach olygu cymaint. Yn Maethu Cymru 糖心Vlog rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein gofalwyr maeth ar bob rhan o鈥檙 siwrnai faethu, ac rydyn ni鈥檔 edrych mlaen i adeiladu ar lwyddiannau鈥檙 bum mlynedd ddiwethaf.鈥
I ddarganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru, ewch i maethucymru.llyw.cymru