糖心Vlog

Ysgolion 糖心Vlog yn dathlu am lwyddiant eithriadol yn y Gymraeg

Mae ysgolion ar draws 糖心Vlog yn cael eu cydnabod am eu hymrwymiad eithriadol i hyrwyddo'r Gymraeg, gyda dysgwyr, staff a chymunedau'n cofleidio'r Gymraeg drwy raglenni Siarter Iaith a Campws Cymraeg.

Mae'r mentrau yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gan helpu plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg yn hyderus y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Mae carreg filltir bwysig wedi'i chyflawni gan Gymuned Ddysgu Ebwy Fawr, sef yr ysgol gyfrwng Saesneg gyntaf ym Mlaenau Gwent i dderbyn Gwobr Aur fawreddog y Campws Cymraeg. Canmolodd yr aseswyr ymagwedd gymunedol gyfan yr ysgol, arweinyddiaeth gref a'r brwdfrydedd a ddangoswyd gan ddisgyblion, a welwyd yn defnyddio'r Gymraeg yn naturiol a gyda balchder drwy gydol y diwrnod ysgol.

Mae'r wobr yn cydnabod blynyddoedd o ymrwymiad gan staff, dysgwyr a llywodraethwyr. Ar draws y cyfnod cynradd ac uwchradd, mae'r Gymraeg wedi'i hymgorffori ym mywyd bob dydd yr ysgol trwy addysgu arloesol, digwyddiadau diwylliannol, partneriaethau cymunedol a gr诺p arweinyddiaeth disgyblion Criw Cymraeg hynod weithgar.

Mae ysgolion 糖心Vlog yn parhau i ddangos cynnydd trawiadol. Mae Ysgol Gymraeg Bro Helyg wedi ennill Gwobr Aur Siarter Iaith, ac mae Ysgol Gymraeg Tredegar eisoes wedi sicrhau statws Efydd wrth iddi barhau 芒'i thaith Gymraeg. Yn y cyfamser, mae pob ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ac Ysgol Arbennig Pen-y Cwm wedi cyrraedd o leiaf lefel Efydd, gydag Ysgol Gynradd Beaufort Hill ac Ysgol Gyfun Tredegar yn symud ymlaen i Arian.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Mae'r llwyddiant hwn yn tynnu sylw at ymroddiad ysgolion ledled y fwrdeistref i gryfhau sgiliau iaith Gymraeg, dathlu diwylliant Cymru a chreu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg yn hyderus yn eu bywydau bob dydd. Rydym yn croesawu'r cyflawniadau hyn ac yn edrych ymlaen at weld hyd yn oed mwy o ysgolion yn symud ymlaen tuag at wobrau arian ac aur yn y blynyddoedd i ddod, gan helpu i adeiladu dyfodol ffyniannus i'r Gymraeg ym Mlaenau Gwent."