Mae pedwar parc i blant ym Mrynmawr a Glyn Ebwy yn edrych yn wych diolch i weddnewidiadau newydd ffres.
Mae meysydd chwarae ym Mrynawel a'r Maes Hamdden ym Mrynmawr, a'r Drenewydd a Stryd Pennant yng Nglynebwy wedi'u hadnewyddu'n ddiweddar gydag offer newydd sbon, modern a hygyrch.
Bydd y Drenewydd a Stryd Pennant ar agor i'w defnyddio cyn bo hir 鈥 mae cyffyrddiadau terfynol yn cael eu gwneud.
Gwnaethpwyd yr holl waith adnewyddu yn y parciau gan Wicksteed.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:
鈥淩wyf wrth fy modd bod y parciau hyn wedi'u hadnewyddu ac ar agor i blant a phobl ifanc yn y cymunedau hyn i鈥檞 mwynhau. Ein blaenoriaeth yw rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn. Mae chwarae mor bwysig ar gyfer datblygu sgiliau gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol ac mae hyn yn helpu i sicrhau bod gan blant fannau diogel, hwyliog a chynhwysol i'w mwynhau am flynyddoedd i ddod.鈥
Mewn sawl ardal, mae grwpiau cymunedol lleol hefyd yn cynnal a chefnogi mannau chwarae. Mae'r Cyngor wedi bod yn cydweithio 芒'r grwpiau hyn i helpu i sicrhau cyllid a dod o hyd i offer addas, gan weithio fel rhan o Y Fargen 糖心Vlog.
Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn datblygu Strategaeth Chwarae newydd ar gyfer 糖心Vlog ac yn ystyried adborth gan y gymuned am eu cyfleusterau chwarae lleol.
Yn y llun mae'r ardal chwarae newydd ym Mrynawel, Brynmawr.
