糖心Vlog

Cyngor 糖心Vlog yn prynu canolfan siopa fel rhan o gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Tredegar

Mae Cyngor 糖心Vlog wedi prynu Canolfan Siopa Gwent yn Nhredegar fel rhan o gynlluniau adfywio hirdymor ac uchelgeisiol ar gyfer y dref.

Mae pryniant y ganolfan siopa breifat wedi'i ariannu 100 y cant o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU.

O dan berchnogaeth y Cyngor, mae rhaglen o waith gwella wedi'i rhoi ar waith a bydd rheolaeth o ddydd i ddydd yn cael ei wneud gan yr asiantau rheoli Cooke ac Arkwright. Bydd opsiynau ar gyfer y dyfodol yn cael eu datblygu dros y flwyddyn nesaf, gyda'r gymuned leol yn cael y cyfle i ddweud eu dweud a llunio cynlluniau.

Dywedodd Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd 糖心Vlog, y Cynghorydd John Morgan:

鈥淓in blaenoriaeth yw creu economi leol ffyniannus a lleoedd bywiog i fyw ynddynt ac ymweld 芒 nhw ar draws 糖心Vlog. Mae Canolfan Siopa Gwent yn ased allweddol yn Nhredegar, felly mae hwn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen yn adfywiad ehangach y dref ar ben y buddsoddiad o 拢20 miliwn o gyllid Balchder Bro.

鈥淢ae trigolion wedi dweud wrthym eu bod eisiau i ni ganolbwyntio鈥檔 wirioneddol ar wella ein trefi ac mae bod yn berchen ar y ganolfan siopa yn golygu y gallwn ganolbwyntio ar wneud gwelliannau uniongyrchol i fusnesau presennol, yn ogystal ag edrych ar gynlluniau tymor hwy sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chreu lleoedd a chyfleoedd ariannu allanol.

鈥淢ae ein Glasbrint ar gyfer Twf sy鈥檔 datblygu, Ffynnu Gyda鈥檔 Gilydd, yn cynnig dull strategol o ddenu buddsoddiad i鈥檙 ardal, gwella llesiant a lleihau anghydraddoldebau trwy gyflogaeth gynaliadwy. Yng Nghanolfan Siopa Gwent mae gennym gyfle newydd i gefnogi busnesau presennol, annog busnesau newydd a chefnogi swyddi newydd a sgiliau newydd, yn ogystal 芒 datblygu gofod cymunedol gwerthfawr.鈥

Nid yw鈥檙 pryniant yn golygu unrhyw newid i鈥檙 busnesau presennol ar y safle.