Beth yw teithiau byr, pwrpasol?
Mae taith teithio llesol yn golygu cerdded neu feicio i gyflawni tasgau bob dydd y byddech fel arall yn defnyddio car ar eu cyfer. Er enghraifft:
- Cerdded gyda’ch plentyn neu ŵyr/wyres i’r ysgol ac yn ôl
- Cerdded neu feicio i’r gwaith ac yn ôl
- Cerdded neu feicio i’r orsaf drenau neu fysiau leol i ddal y trên ar gyfer taith ymlaen
- Cerdded neu feicio i’r siop leol
- Cerdded neu feicio i’r fferyllfa neu ganolfan gofal iechyd leol
Gwyliwch ein i gael rhagor o wybodaeth am deithio llesol.
Beth mae CBS ÌÇÐÄVlog yn ei wneud am deithio llesol yn y gymuned?
Gyda chymorth y Gronfa Teithio Llesol, a weinyddir gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, mae CBS ÌÇÐÄVlog wedi gallu gwella ei rwydwaith presennol o lwybrau teithio llesol a chynllunio ar gyfer llwybrau teithio llesol yn y dyfodol gyda’r nod o wneud teithio llesol yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy pleserus i defnyddwyr.
Mae’r mesurau teithio llesol a roddwyd ar waith hyd yn hyn yn amrywio o fân waith megis gosod cyrbau isel a phalmentydd botymog ar hyd ein rhwydwaith priffyrdd, i fesurau ar raddfa fwy, sy’n cynnwys adeiladu llwybrau cyd-ddefnyddio (cerdded a beicio) newydd a chroesfannau â signalau. Rydym hefyd yn gwneud gwaith dichonoldeb a dylunio ar gyfer llwybrau newydd y bwriedir eu hadeiladu yn y dyfodol.
Rydym wedi ymuno â’r elusen cerddwyr Strydoedd Byw i helpu i hyrwyddo teithio llesol mewn ysgolion drwy weithredu’r her WOW (Cerdded Unwaith yr Wythnos) mewn wyth o’i hysgolion cynradd ar draws y fwrdeistref. Mae’r her yn fenter dwy flynedd a arweinir gan ddisgyblion lle mae disgyblion yn hunanadrodd sut maent yn cyrraedd yr ysgol bob dydd gan ddefnyddio traciwr teithio WOW rhyngweithiol. Os ydynt yn teithio’n gynaliadwy o leiaf unwaith yr wythnos am fis, cânt eu gwobrwyo â bathodyn. Ers dechrau’r her, bu cynnydd o 73 y cant mewn dulliau teithio llesol ymhlith yr wyth ysgol sy’n cymryd rhan a gostyngiad o 43 y cant yn nifer y teithiau sy’n cael eu cwblhau yn gyfan gwbl mewn car (mae rhai disgyblion sy’n cael eu gyrru mewn car i’r ysgol bellach yn cael eu gollwng ymhellach i ffwrdd o’r ysgol fel y gellir cerdded rhan o’u taith i’r ysgol). Mae’r her bresennol i fod i ddod i ben ym mis Gorffennaf 2025.
Rydym wedi datblygu Map Rhwydwaith Teithio Llesol, gan gynnwys datblygu llwybrau newydd (y dyfodol) a gwella’r rhai presennol fel y gall trigolion ac ymwelwyr weld ble mae ein llwybrau presennol a lle mae ein llwybrau ar gyfer y dyfodol wedi’u cynllunio. Adolygir y map bob pedair blynedd a disgwylir y diweddariad nesaf yn 2026. Mae ein map presennol i’w weld yma: .
Os ydych yn gwybod am unrhyw lwybrau ym Mlaenau Gwent y gallai fod angen eu gwella ar gyfer cerdded a beicio, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am deithio llesol, cysylltwch â’r Swyddog Cymorth Teithio Llesol Kathryn Childs drwy anfon e-bost at kathryn.childs@blaenau-gwent.gov.uk.
Cynlluniau teithio llesol arfaethedig yn 2026/27
- Adolygiad Map Rhwydwaith Teithio Llesol - asesiad o lwybrau presennol a nodi gwelliannau rhwydwaith posibl.
- Dyluniad manwl o welliannau teithio llesol ar hyd yr A467 rhwng Bryn-mawr a Blaenau.
- Croesfan â goleuadau traffig newydd.
- Gosod llochesi beiciau mewn ysgolion uwchradd.
- Gosod croesfannau heb eu rheoli.
- Cynllun Datblygu Rhwydwaith Ysgolion Georgetown.
- Parhau â Her WOW mewn deg o'n hysgolion cynradd.
Cynlluniau a gwblhawyd
Llwybr Teithio Llesol Glyncoed, estyniad deheuol

Ffordd Ganolraddol, Bryn-mawr: Gwelliannau Teithio Llesol

Gosod ramp ac adnewyddu grisiau ger Llecyn Aneurin, Bryn-mawr

Croesfan Twcan – Ffordd Darren Felin, Bryn-mawr

Cyswllt gogledd/de Glyn-coed, Glynebwy

Croesfan twcan – yr A4047 y tu allan i archfarchnad Morrisons, Glynebwy

Cyrbiau isel a phalmentydd botymog ar hyd cyffyrdd yn Stryd y Brenin, Bryn-mawr

Cyrbiau isel a phalmentydd botymog yn Stryd Glandwr, Abertyleri

Lledu llwybrau troed, gosod wyneb newydd, a chyrbiau isel a phalmentydd botymog, Ffordd Gwent, Tredegar
Ystruth, Blaenau

Croesfan, Heol Blaenau, Bryn-mawr

Croesfan twcan – Gelli Badminton, Glynebwy

Cyrbiau isel a phalmentydd botymog yn Stryd y Ddôl, Llanhiledd

Rydyn ni eisiau gwneud teithio llesol yn rhan arferol o fywyd bob dydd, cerdded i'r ysgol neu'r gwaith yn lle mynd â'r car, nid yn unig y mae'n iachach, mae'n wych i'r amgylchedd hefyd.
Gadewch i ni wneud ÌÇÐÄVlog yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef, i ni ein hunain ac i genedlaethau’r dyfodol.
Os hoffech chi gymryd rhan a helpu i ddatblygu eich rhwydwaith teithio llesol lleol, cysylltwch â Kathryn Childs - Swyddog Cefnogi Partneriaethau ac Ymgysylltu (Teithio Llesol) activetravel@blaenau-gwent.gov.uk neu ewch i'r dudalen hon am ddiweddariadau yn y dyfodol.